Mandrake Linux

Gwybodaeth am Osod

Gwybodaeth Gosod – Mandrake Linux 9.0

Ffurfweddiad Angenrheidiol

Mae gosod Mandrake Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant.
Darllenwch bwynt 1.

NODYN:


Mae modd i chi hefyd osod Mandrake Linux ar i system Windows 95/98/ME, gan ddefnyddio Linux for Windows. Nid yw hyn yn gofyn am rannu'r disg ac mae'n gosod Linux mewn ffolder Windows. Mae'n ffordd hwylus i ddarganfod Mandrake Linux heb fod wedi newid eich system Windows. Er hynny, mae'n sylweddol arafach na gosodiad arferol. Hefyd, bydd eich gosodiad Mandrake Linux yn cael ei golli os fyddwch yn ailosod Windows. Ewch i bwynt 2 i ddefnyddio Linux for Windows.

Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandrake Linux:

  1. Cychwyn yn syth o'r CD
  2. Gosod o fewn Windows 95/98/ME
  3. Gwneud disg cychwyn gyda Windows
  4. Dulliau eraill o osod


1. Cychwyn yn syth o'r CD

Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ailgychwynnwch y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach.

NODYN:

Ar rai cyfrifiaduron symudol, ni fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, dylech baratoi disg cychwyn. Gweler pwynt 3 am fanylion.

[brig y dudalen]


2. Gosod o fewn Windows 95/98/ME

I osod Mandrake Linux o fewn ffolder Windows, i osgoi unrhyw rhannu disgiau, dylech:

  1. Gosod y CD cyntaf yn y gyrrwr,
  2. Ail gychwyn y system,
  3. Pwyso [F1] pan mae sgrin Mandrake Linux yn ymddangos,
  4. Teipio lnx4win wrth y cyrchwr, yna pwyso [Enter]
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am lnx4win i'w cael ar y ffeil darllen perthnasol.

NODYN:

Wrth rhoi'r CD i fewn o dan Windows, bydd ffenestr yn codi i rhoi crynodeb o'r gosod ac i diwtorialau ac arddangosiad o Mandrake Linux. Bydd hefyd yn caniatáu i chi greu'r disg cychwyn fel yn ôl pwynt 3.

Os nad yw'r ffenestr yn codi, rhedwch:

D:\dosutils\autorun.exe

(gan gymryd mai D yw llythyren gyrrwr eich CDROM).

[brig y dudalen]


3. Gwneud disg meddal cychwyn gyda Windows

Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg cychwyn gyda Windows.
Dyma sut mae gwneud:

I gychwyn y gosodiad:

[brig y dudalen]


4. Dulliau eraill o osod

Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:

Dyma restr o ddelweddau cychwyn:

cdrom.img gosod o'r CD-ROM
hd.img gosod o'r disg caled
network.img gosod o ftp/nfs/http
other.img gosod a chynnwys gyrrwy anaml eu defnydd
pcmcia.img gosod o ddyfais pcmcia (warning, most pcmcia network adapters are now directly supported from network.img)
usb.img install from USB devices: USB network adapters to perform a network install, or USB CDROM/CDRW's to perform a cdrom install
blank.img gosod eich cnewyllyn Linux eich hun

Y ddelwedd leiaf yw blank.img ar gyfer gosod cnewyllyn addasedig.

[top y dudalen]


Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch text wrth yr annogwr.

Os fyddwch byth angen achub eich system Mandrake Linux, rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandrake Linux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr.

Gweler http://www.linux-mandrake.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol.

[top y dudalen]


Prif gamau'r gosodiad:

  1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac ail gychwyn eich peiriant.
  2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandrake Linux yn ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
  3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch y peiriant gyda llaw.
  4. Bydd Mandrake Linux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif neu fel "gwraidd" (root).

Nodyn pwysig:

Mae'r cyfrif "gwraidd" yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".

Pob hwyl gyda Mandrake Linux !

[top y dudalen]


Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandrake Linux a'r FAQs ar safle gwe: